Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Cymru,3 mins

Heol Caradog, Aberystwyth: Erledigaeth yr Athro Ethé

Y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru

Available for over a year

Ym mis Hydref 1914, gyda phropoganda gwrth-Almaenig yn wenfflam yn fuan wedi toriad y Rhyfel Byd Cyntaf, trôdd rhai o bobl Aberystwyth ar yr Almaenwyr oedd yn byw yno a'u hanfon o'r dref mewn ton o gasineb. Un o'r rhai mwyaf amlwg oedd yr Athro Hermann Ethé, darlithydd adnabyddus yn ei 70au oedd wedi byw yn y dref ers bron i 40 mlynedd. Roedd yn Athro mewn Almaeneg a ieithoedd y Dwyrain yn y Brifysgol ac yn cael ei ystyried yn athrylith yn ei faes. Yr haneswyr Tegwyn Jones a'r Athro Russell Davies sydd yn crynhoi digwyddiadau yng ngorsaf reilffordd Aberystwyth ac, yn ddiweddarach, ar Heol Caradog yn y dref, pan ddaeth torf o filoedd at ei gilydd a gorfodi Ethé a'i wraig i adael eu cartref am byth. Fe wnaethon nhw ddianc dros nos i Loegr a setlo'n ddiweddarach yn ardal Clifton, Bryste. Chawson nhw fyth ddod nôl i'w cartref yn Aberystwyth a bu farw Ethé yn 1917. Daw'r clip hwn o'r rhaglen Bravo Aberystwyth, BBC Radio Cymru, gyda Marion Loffler yn olrhain hanes erlidigaeth trigolion Almaenig Aberystwyth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Lleoliad: 3 Heol Caradog, Aberstwyth, SY23 2LB. Llun: Prifysgol Aberystwyth a chartref Ethé yn Heol Caradog.

Programme Website
More episodes