Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Y Gamp Lawnaf

Camp Lawn

Available for over a year

Fesul gêm ac fesul gôl, fesul cic, fesul cais dadleuol, ar y Gamp Lawn awn ar ôl awyr lasach, arloesol. O Millwall ar ymweliad tua’r Saint a’r Swans ar amrantiad, awn heddiw am adroddiad a rydd gip ar waedd y gad. I Barc y Scarlets, heb os, awn o gêm y Gweilch at gêm anos, draw i glec y frwydyr glos: stwr gornest ar gae hwyrnos. Camp Lawn y prynhawn a heno â’i gwerth deg awr o wefreiddio; deg awr fydd yn dod i go’, deg o oriau diguro. cwj (25.10.14)

Programme Website
More episodes