Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Cymru,2 mins

Wrecsam: Cannoedd o fenywod yn gweithio mewn ffatri fomiau

Y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru

Available for over a year

Cwmni yn gwneud peiriannau amaethyddol a sefydlwyd yn y 19eg Ganrif oedd Powell Brothers yn wreiddiol. Ond yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fe drodd y cwmni at gynhyrchu bomiau mortar ar gyfer gynnau Stokes. Roedd bomiau o’r math yma’n rhan hollbwysig o’r brwydro yn y ffosydd. Yr hanesydd lleol Alister Williams sy’n esbonio mwy am y cwmni a’r gynnau Stokes yn y clip. Y casys ar gyfer y bomiau mortar oedd yn cael eu creu ar y safle yn Wrecsam; fe fydden nhw wedyn yn cael eu llwytho ar y trên yn yr orsaf gerllaw a’u cludo i safleoedd eraill i gael eu llenwi â deunydd ffrwydrol. Fel yn hanes nifer o ffatrioedd a gweithfeydd eraill roedd yna brinder gweithwyr wrth i nifer o ddynion ymrestru yn y lluoedd arfog. Fe gyflogwyd mwy a mwy o fenywod gan Powell Brothers ac erbyn 1918 roedd rhai cannoedd o fenywod yn gweithio yno. Dioddefodd y teulu Powell fel cynifer o deuluoedd eraill oherwydd y Rhyfel Mawr. Fe laddwyd un o’r brodyr, Dafydd Emrys Powell, yn 1918. Wedi’r rhyfel fe benderfynodd y teulu newid cyfeiriad a chynhyrchu beiciau modur yn hytrach na pheiriannau amaethyddol. Fe ddaeth y busnes yna i ben wedi ychydig flynyddoedd yn unig yn 1925. Erbyn hyn cwmni sy’n gwerthu deunyddiau ar gyfer adeiladwyr sydd ar safle gwaith Powell Brothers. Llun: Gweithwyr ffatri'r Brodyr Powell yn Wrecsam. Lleoliad: Ffatri Powell Brothers, Gorsaf Reilffordd, Wrecsam, LL11.

Programme Website
More episodes