Episode details

Radio Cymru,1 min
Available for over a year
Fe ddaethon nhw ’mlaen yng Nghaer ar ddiwrnod tanbaid cynta’r flwyddyn, ond doedd eu golygon ddim tua’r môr a wibiai’n emrallt heibio i’r ffenest, ’mond wynebu’i gilydd dros fwrdd bach plastig heb weld plygiadau gwydr yr haul. Roedd y tad yn galed, a phob cyhyr o’i eiddo’n tynhau drwy bob troad, pob cwestiwn o enau’r mab. Roedd yntau’n feddal i gyd, yn gwenu, ac yn drên o chwilfrydedd. A fesul gorsaf, eglurai’r tad bod y fam yn aros; byddai yntau, y tad, yn dychwelyd, ar hyd lein arall. Tawelwch. Tynhau. Yna’r mab yn gwenu, gan ddweud ‘mi fedra-i weld fy hun yn dy lygaid di, dad’, a meddalwch y gweld yn doddi tawel rhyngddynt. Gwyliais y ddau yn glanio, heb ddal y ffarwel, na’r ddau yn tynnu i’w gwahanol ffyrdd, achos plymiodd y trên o’r awyr las i dywyllwch tanbaid y twnel, a’r môr yn mynd o’r golwg, a’r gwylanod gwyn, a’r haul. Llŷr Gwyn Lewis 10
Programme Website