Episode details

Radio Cymru,1 min
Series2014
Y GLÊR: Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Y chwerw’n troi’n chwarae
Y TalwrnAvailable for over a year
(ar dôn ‘Chwarae’n troi’n Chwerw’ CPJ) Mae ’mywyd i yn ddedwydd, rwy’n fodlon ar fy myd, Ond mae na e-bost wrth y capten sy’n fy mhoeni i o hyd. Rwy’n syrthio mewn i’r fagl o anghofio am dded-leins A does dim ar ôl, ond cymryd stôl, a chael peint o gwrw Brains. Ac yna bob yn ddropyn, mae’r geiriau’n dod fel hyn. Dwi’n dod i ddeall sut mae cael y gorau ar Ceri Wyn. Mae’n dod yn haws creu odl wrth imi gymryd llwnc, Ac rwy’n gwbod yn iawn bod f’Odliadur yn llawn o eiriau fel trwnc a rhwnc. Ac mae’r chwerw’n troi’n chwarae, Mae joch yn troi’n jôc, Mae’r ffroth yn troi’n eiriau; Mae’n gweithio’n well na Coke. Ac os ydw i’n rhywle yn cael trafferth fel o’r bla’n, Cofiaf fod chwerw’n troi’n chwarae wrth chwarae da’r Gân. Iwan Rhys 9
Programme Website