Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series2014

Y FFOADURIAID: Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Y chwerw’n troi’n chwarae

Y Talwrn

Available for over a year

Mi wyddai y ddwy ochr y byddai’n frwydr fawr Ac felly penderfynwyd: byddai’r kick-off gyda’r wawr. Roedd pawb ’di cael sanau newydd sbon o adra yn eu sach, Heblaw am Now, wnaeth orfod chwarae’n droednoeth, druan bach. Rhyw horwth mawr o Firmingham a safai yn y gôl Ond gan mai Cymry oedd y lleill doedd o’n dallt bygyr ôl. Ac felly pan ofynnodd rhywun iddo basio’r bêl Mi daflodd yntau ddwy grenade – roedd hynny’n ‘mega fail’. Chwaraewr gorau’r Jyrmans oedd yr ymosodwr, Ffritz, Ond mi redodd o nôl i’r dugout efo pwl go gas o ... nits. Mi drodd y chwarae’n fudur ac mi gollodd Wil ei bans A’i floedd ar y sawl a’u tynnodd? ‘Paid â chwara ’fo hwnna Hans!’ Roedd Jim o’r South Wales Borderers yn ‘whare’n itha gwd’ – Mi sgoriodd gôl, cyn dathlu’n syth fel Klinsmann yn y mwd. Bu bygwth mawr rhoi stop i’r gêm gan ddiawl bach o gadfridog Oherwydd byrstiwyd pedair pêl ar res o weiren bigog. Ond daeth y chwiban am ffwl teim, ac felly gyda’r nos Yn ôl i’w le yr aeth pob un, i amddiffynfa’r ffos, A drannoeth cafwyd chwiban unwaith eto gyda’r wawr, A’r ddwy ochr eto’n gwybod y byddai’n frwydr fawr. Llŷr Gwyn Lewis 8

Programme Website
More episodes