Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series2014

HIRAETHOG: Cân ysgafn 'Cadw Sgôr'

Y Talwrn

Available for over a year

Mewn swyddfa segur, dywyll, o eiddo'r BBC, Mae yno gwpwrdd ffeilio, ac ynddo, wir i chi, I lawr yn y drôr gwaelod, 'ny gornel bellaf, ddu, Mae yno lwyth o rifau, a'u pennau yn eu plu, Yn teimlo'n wrthodedig, dibwrpas ac yn drist Am nad yw Ceri’n crybwyll rhif Chwech na’r rhifau is. Eu hunllef yw'r Haneri, gan mai o'u herwydd nhw Mae Chwech a Phump a Phedwar yn gymaint o dabŵ. A Dau a Thri sydd bellach, fel Un yn fythol brudd O wybod na chânt hwythau fyth weled golau dydd. Am hyn, drwy’r drôr, mae enw pob hanner marc fel baw, Aeth Naw yn "9½"; ac Wyth sydd nawr, fel "naw"; Yn lle rhoi Saith, rho'r meuryn ryw "hanner ar ben wyth"; A'i "wyth" ef yn gyfystyr a'r Chwech, o'r cyflawn lwyth. Yn lle rhoi "7½ ", beth am roi Pump ar waith? Ac yna rhoddi Pedwar, yn hytrach na rhoi "saith". Os am roi "6½", rhoi Tri; nid "chwech" ond Dau, A byddai Un mor falch o weld ei gyfle yn nesäu. Er mwyn eu hawl cyfartal, clyw lais eu protest croch, Rho gyfle iddynt, Ceri....., wrth sgorio Criw’r Llew Coch. Gwenno Davies 9

Programme Website
More episodes