Episode details

Available for over a year
Fy nhrowsus rib oedrannus a’i liw nawr bron yn wyn, Mae patsyn ar ben patsyn ar goesau’r llodrau hyn. O’r golwg mae y gwreiddiol, lliw oren golau sydd A siocolet lliw olaf, a’r sip ar ben ei dydd. Yn ifanc bu’n brasgamu yn llon tros fryn a dôl Yn cadw’r gwynt gaeafol o fola a phen-ôl. Do, cafodd gynt ei ostwng, mewn gallt neu borfa fras Gerllaw rhyw glwmp dail tafol ger côr o gilion glas. Ar lwyn yn nawr ei hanes, yn herio’r gwynt ma’ nhw Yn darged i’r gwylanod a gwawd y gwdihŵ. Ond beth am drowsus arall, i siopa i Oxfam es - Ro’dd pob math o drowseri yn hongian yno’n rhes. Ro’dd denims ar ôl hipis, rhai o amrywiol liw’n Cyfyngu popeth ynddynt o eiddo dynol ryw. Ro’dd trowsus ar ôl heddwas a’i goesau heb ddim crych ’Rôl rhwbio’n sêt ei Honda, pen-ôl â sglein fel drych; Ro’dd trowsus ’rôl gweinidog, efallai Jiwbilî - Pe’i gwisgwn ger Iorddonen, yn hawdd y croeswn hi. Mi brynais got â chwtws a hefyd buwch a llo: Rwy nawr yn carthu’r beudy mewn trowsus Saville Ro'. 10
Programme Website