Episode details

Available for over a year
Hen ffasiwn oedd i’m llygaid ifanc i, A chywilyddiwn, pan yr awn i’r dre, O gael fy ngweld yn cerdded gyda hi Pe byddai fy nghyfoedion hyd y lle. Fe wnawn ei herio gyda’m geiriau ffôl Heb sylwi fod fy “Na” ’n achosi loes, A minnau yn ddi-hid a di-droi’n-ôl Fel llawer o’m cenhedlaeth yn fy oes. Wrth dyfu’n hŷn dyhëwn lawer gwaith Am agosatrwydd rhyngom ni ein dwy, Ond collais gyfle, ac mae yna graith Sy’n dyfnhau, gan nad yw yma mwy. Y dydd o’r blaen mi roes fy nghalon lam Pan ddwedodd ffrind, “Mor debyg wyt i’th fam.” 8.5
Programme Website