Episode details

Radio Cymru,1 min
Available for over a year
I Wynedd un diweddydd ar ei farch trwy’r Gymru fydd dan glog y daeth swyddog sir. Pwyntiodd ar hyd y pentir efo bys fel gwn twelf bôr ac angau lond ei gyngor yna dweud, “wyth mil o dai o fudd i’ch daear fyddai”. Am reid yr aeth sawl gwleidydd - ar eu hôl roedd tyweirch rhydd, rhyw bwt o bader, a bedd ar ei hanner i Wynedd. 9.5
Programme Website