Episode details

Radio Cymru,1 min
Available for over a year
Un annwyl yw ei wyneb Ond ni wêl damaid o neb. Er mynd a mynd mae o hyd Yn symol o ddisymud. Trwy'r tŷ mae ei ganu gog Yn galw fel rhyw geiliog. Anniddig yw ei igian A mwy yw mewn oriau mân, Ei dwrw'n anhosturiol - Damnia hwn nad â am nôl. Fy oes sydd rhwng ei fysedd A'u troi bach sy'n torri bedd. (Cloc) Aled Evans 9
Programme Website