Episode details

Available for over a year
Rhyw ddydd fe fydda i fel pob hen ãr mewn cornel, rhwng dwy wal yn gaeth, a'm teulu o fy mlaen, y plant a’u stãr, fel byd ar sgrin a finnau'n cofio'r hyn a aeth. Ac wedyn un o ddwsin mud mewn rhes a dim i’w weld ond lluniau llefydd pell a merch na wn ei henw’n ennill pres, rhyw fymryn, ac yn rhannu’r gell. Ac unwaith yn y pedwar amser daw y plant i ddeud helo a siarad uwch fy mhen am gostau cadw Taid, sydd bron yn gant, ac yna mynd gan ddistaw dynnu’r llen. A finnau’n cofio’r cynnal tawel fu gan ongl rhwng dau bared yn fy nhñ. 9.5
Programme Website