Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series2014

BERWYN: Cân ysgafn 'Y Labordy'

Y Talwrn

Available for over a year

I labordy ar lethrau yr Aran Aiff nifer o bobl llawn ffydd, I geisio cael dianc o’r twpdra A dod o’u hanwybod yn rhydd. Nid oedd Wayne o ardal Maenceinion Y seren ddisgleiria yn bod Ac felly fe aeth am y driniaeth IQ o dri deg oedd ei nôd. Rôl cael ei werthuso a’i wirio A styried be wnai iddo fo, A phwyso a mesur y costau Dim ond dau ymennydd wnai’r tro. Roedd un yn eiddo i gyn – athro A’i bris yn rhyw dair punt ar ddeg, A’r llall i gyn Wnidog dros Addysg A miliwn yn bris digon teg. ‘Ond pam y gwahaniaeth mewn costau’ Medd Wayne rôl pendroni’n hir, ‘Un yr athro sy di ddefnyddio A’r llall ? - Wel fel newydd yn wir !! 8.5

Programme Website
More episodes