Episode details

Available for over a year
Mae hi’n cwyno nad ydw i’n canu cerddi iddi – yn odli’n cariad yn benillion cain – ond mae’n anodd cynganeddu â llond hafflau o ddillad a phrydu ’nghanol tasgau diflas, ynfyd o hanfodol. A dyna’r aberth beunyddiol sy’n addoliad iddi – llwytho’r peiriant, cofio’r sebon, gwylio’r troi: 9.5
Programme Website