Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series2014

Cân Ysgafn: Chwaraeon troi'n chwerw

Y Talwrn

Available for over a year

Bob nos w’th ddwad adra o’r ysgol fawr ar býs fe fydda’ ffrae aruthrol a llawer iawn o ffýs rhwng ‘mrodyr mawr a finna, rhwng duw a’i ysbryd glân, pwy fydda’ yn ca’l ista’n gada’r w’th y tân. Gan ma’ fi o’dd y tebyca welsoch rioed i linyn trôns y fi bob tro a gollai yn hawdd iawn yn y bôn…s(!); fe setla’s ar greu dyfais a guddiai’n daclus iawn ‘fo hoelan wyth go finiog ar ben draw ‘spring’ go lawn…. a phwy’bynnag fydda’r cynta yn charfflyd yn ei le o’m siambar sori gallwn dynnu ‘lever’ ….ac Awe! fe saetha’ yr wyth modfadd fel roced i’w pen-ôl ac Apollo 11 o frodyr neidiai’r lleuad ac yn ôl. Roedd Tre Fach a Hiroshima yn chwerw wedi’r bóm, ac Ewrob gyfa hefyd yn chwerw wedi’r Somme. Roedd Hitler .....nôl pob tebyg....neitha chwerw ar ‘i daith wrth iddo blanio rhyfal o gwmpas ’37. Ond o’r holl hyll ryfelo’dd ac o’r holl ladd di-ri nid oeddynt i’w cymharu a’r rhyfal yn tŷ ni pan droiodd chwara brodyr yn chwerw, dipia mân pan aeth hoelan wyth drwy gwshin y gadar w’th y tân. Ynyr Williams 8.5

Programme Website
More episodes