Episode details

Available for over a year
Dros ddegawd a mwy yn fy ngyrfa, fe lwyddais, drwy fedr a lwc, I fod yn ysgogiad a noddfa i’r sawl oedd yn chwythu ei blwc. Rhois hyder i’r rhai oedd yn nerfus i gamu’n llawn dewrder i’r cae, Gan lorio pob bwgan yn rheibus, fel llew yn ymosod ar brae. Roedd eraill yn rhy ymosodol, a’m camp gyda nhw oedd eu cael I ymddwyn fel pobl resymol - yn lle codi dwrn, codi ael. Ond methiant, rhaid dweud, oedd fy ymdrech, er ceisio drachefn a thrachefn, I ddeall pam mae mewnwr Cymru mor aml ar wastad ei gefn. Elin Meek 8.5
Programme Website