Episode details

Available for over a year
‘Wy am droi dalen newydd ond mae’r ola wedi’i throi, - Mi brynai lyfyr arall a sgwennu fel y boi. ‘Wy’n mynd i newid pethe, a bod yn berson da I’r bŵs, y ffags a byta’n hwyr rhaid imi ddweud ta’ta. Ie! Clirio mas y pethe sy’n sbwylio mywyd i Y clwbie golff. .. y teli ... y ffôn...y wraig....a’r ci! Bydd hon yn ddalen enfawr yn fwy na bar y Ship A’r geirie olaf arni bydd “HWRE! Hei leiff, HIP HIP” Ni fydd neb yn dianc rhag fy sbeit am llid Gwleidyddion, Brymis ,Brussel Sprouts yn diflannu’n rhwydd o’m byd Ci rhech y boi drws nesa yn esgyn i’r cenel nefol, A dyn y tax ceith fynd i’r jawl (bydd e’n timlo’n reit gartrefol) Tai hâf, cerdd dant, ymwelwyr –pobol sy’n dweud “Snowdonia” Prîns Charles, y cwîn – a HAEMORRHOIDS (odd rhaid i fi checo hwnna!) Eddie Butler, Brian Moore – ‘wy jest a dod i ben Celebrity Come Dancing – a dyna ni – AMEN! Dewi Pws 9
Programme Website