Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series2013

Cerdd Rydd: Carthu.

Y Talwrn

Available for over a year

A phan y daw hi'n amser mi a’i ati fel petai dim wedi newid. Fi fyddai'n gwneud erioed. Mi fydda‘ i'n cau holl fotymau'r ofarols yn ofalus ac yn gwthio nhraed i mewn i'r welingtons. Daw deuawd gwich y drws a melyn isel yr haul i nghyfarch fel erioed. Mi fyddai'n troedio'n araf lawr i'r iard, gan adael i oriau'r dydd a sgyrsiau'r gwenoliaid lenwi 'mhen. Mae coes y rhaw mor gyfarwydd ag aur fy modrwy briodas. A rhai diwrnodau mi fydda‘ i'n ei throi hi am y tŷ heb deimlo holl hiraeth y byd yn cronni, a weithiau mi fydda‘ i'n cofio cyn rhoi bloedd i ddweud 'mod i wedi gorffen ac y bydd swper ar y bwrdd cyn pen dim, nad oes neb yno yn aros. Casia Wiliam 9 Cyfanswm Marciau: 54

Programme Website
More episodes