Episode details

Available for over a year
Deng niwrnod ar ôl cyn y ‘Dolig A’r tymor yn sydyn ar ben ; Y plantos yn lluwchio o’r ysgol Fel chwthwm plu eira o’r nen. Rhieni yn tyrru, fel arfer, Ond heddiw, dyw’r drefn ddim yr un – Heb neb yn bugeilio’n ofalus Fel ddoe, dônt yn gawod ddi-lun ; Heb dinsel na darlun i Dadi, Na cherdyn i Nain yn eu côl, A mam ger y giatiau yn craffu – Adawyd ‘na un bach ar ol? Gobeithion yn diffodd fel cannwyll, A doedd hi ‘mond mater o lwc Pwy gododd eu plant i fynd adref Yn ddiogel o iard Sandy Hook. Angharad Davies 9.5 Cyfanswm Mariciau: 52.5
Programme Website