Episode details

Available for over a year
Ti yr hwn sy’n ddoeth a phwysig, atat ti y daw pob un, Rwyt ti wastad mor ymroddgar, yn mawrhau dy gamp dy hun ; Minnau blygaf yn grynedig, pan fydd lecsiwn yn y gwynt. Fe ddôi atom ni yn eofn, hwyl a hyder yn dy hynt ; Hysbys wyt o bob cynlluniau, er inni weld dim o’u hôl, Gwyddost gudd feddyliau’r pwyllgor, a’u crwydradau mynych ffôl ; Nid oes yn dy ddawn yn unig a ddiwalla’n heisiau mawr, O rho’r profiad bendigedig o’i heffeithiau hi yn awr, Dyma’n cyngor, Cofia d’addewidion di! Ann Rosser 8.5
Programme Website