Episode details

Available for over a year
Dy wely eto’n llawn o straeon tylwyth teg a chywion bach a thithau’n ymbil arna i i beidio dod â’r dydd i ben. Dw i’n creu nyth o eiriau bras tan i ti gysgu ac yn diolch am dawelwch. Ond deffraf a’m breichiau’n dal dy hunlle di a gwelaf dy adenydd yn sgathru’r wawr fel llythrennau diwedd stori. Mari George 9.5 CYFANSWM MARCIAU: 54.5
Programme Website