Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series2013

Cân: Yr Anghyfiawnder.

Y Talwrn

Available for over a year

Ar un noson cyn Nadolig, daeth tîm Glannau Teifi ynghyd, Yn barod i goncro pob gelyn, a’u sgubo o’r neilltu i gyd. Roedd tymor talyrna yn dechrau; yn ôl arfer y BBC, Er mai newydd gychwyn oedd Rhagfyr, rown i’n esgus mai Calan oedd hi. Roedd tipyn o dasg i’w wynebu, rhai oedd herio prif dîm Tanygroes, Roedd Arwel ac Oernant i’n herbyn, dau o feirdd mwyaf grymus ein hoes. Fe fuon nhw’n bencampwyr Cymru, er nad wyf yn cofio pryd, Tipyn o gamp fyddai ennill, a ninnau heb ennill dim byd. Bu’n paratoadau’n rhai trylwyr - fe gwrddon â’n gilydd ddwywaith Am baned yng Ngastell Newy’, hanner awr wrth fynd adre o’r gwaith. Roedd cwpledi Geraint yn llifo, penillion Gwen yn amheus, A chân wahanol gan Carol na fu’n sôn am bethe neis. Roedd hi’n hynod o dynn hyd y diwedd, hyd i fawrion Tanygroes, Tan bwysau enbyd cystadlu, orffen llinell o englyn â phroest. Roeddem wedi ennill yr ornest! - a hynny’r tro cynta ers tro, Mi fu dathlu ymhlith ein cefnogwyr, y pedwar yn meddwi’n eu tro. Ond yna fe ddaeth ergyd farwol, rhoed taw ar yr awen a’r meic, A chanslwyd darlledu’r Talwrn am fod beirdd wedi mynd ar streic. O’r siom! O’r anghyfiawnder! Ein camp yn anlwc a droes - A nawr fydd ‘na neb yn gwybod i ni drechu tîm Tanygroes. Terwyn Tomos 8.5

Programme Website
More episodes