Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,2 mins

Series2013

Cân Ysgafn: Yr Anghyfiawnder.

Y Talwrn

Available for over a year

Mae i’w deimlo fel ddoe, ond flynyddoedd yn ôl, Fel llawer un arall fe wnes i beth ffôl; Aeth Ifan yr Hendre a Dei Bach a fi I ffair fawr Pentymor am dipyn o sbri. Ac yno y gwelsom dair ffres fel Blodeuwedd Ond un gyda’i sodle fesurai chwe modfedd, A honno gymerodd fy llygaid a’m serch, Ni welais erioed ddim prydferthach merch! Cafodd Ifan a Dei ddwy sobor o salw – Yn salwach byth wedi dau beint o gwrw. Tair priodas a gafwyd, sef Ifan a Leusa, Dei Bach gyda Meri, a fi a Matilda. Mae’r ddeubar arall yn fodlon eu byd, Yn magu babis a siglo’r crud. I Matilda roedd berwi wy yn job, A buan y gwelais mai fi oedd y lob, Yn dewis yn wraig un mor anobeithiol, A hynny i gyd am ei bod mor ddeniadol. Mae rhaid bod ‘na degwch yn rhywle’n y byd ‘ma, Ond nid tegwch yw tegwch o fyw ‘da Matilda Harri Williams 8

Programme Website
More episodes