Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,2 mins

Series2013

Cân Ysgafn: Yr Anghyfiawnder.

Y Talwrn

Available for over a year

Roedd gwraig fach yn byw yn ei hesgid, un nobl, ymhell dros ei chant, yn hapus ar ei budd-daliadau, y hi gyda’i degau o blant. Ond yna fe brifiodd ei thylwyth. Yn raddol, gadawodd bob un, a gadael ’rhen wraig yn bruddglwyfus, heb gwmni’r un adyn, na dyn. A’r holl ystafelloedd yn atsain, daeth swyddog i hel bedroom tax yn smart yn ei siwt un boreddydd a styrbio ei full body wax. Gan hynny, rhoes alwad am lodgers, rhai ffansi, dim unrhyw riff-raff; yn wir, ’mond selebs ac enwogion roedd hi am eu gadael i’w gaff. Y cyntaf i gyrraedd oedd Iolo, a’i adar sglyfaethus, a’i gath, ac yna Huw Edwards a’i deiau, nas gwelwyd erioed ddim o’u bath. Daeth Gwynfryn, Daf Du a’r hen Garyl, y ferch dweud y tywydd, Yvonne, a Prysor, Llanilar a Dudley, ac yna daeth sêr y bêl gron, sef Malcom, a Harsti, ac Ebsi, a Hardy ac Iwan a Wayne, a stalwarts Cwmderi: Dic Deryn, Sabrina a Denzil, Elaine; i’r atig daeth Rhydian y cantor, a’i wallt oedd yn wynnach na blawd, CF1, Côr y Wiber, Glanaethwy, pob fersiwn o gôr Men Aloud. A nawr, doedd dim diben i’r wreigan roi’r teli na’r radio ymlaen; yn toedden nhw i gyd gyda’i gilydd, yn yr esgid, yn teimlo cryn straen? Ond cafodd ’rhen wraig waredigaeth, a hithau ar derfyn ei wits, pan glywodd fod gwely mawr moethus yn sbâr nawr yng ngwesty y Ritz. Owain Rhys 8.5

Programme Website
More episodes