Episode details

Available for over a year
Roedd arna' i angen car newydd (Roedd yr hen un ar stop yn dragywydd), A dyma fi’n troi At yr Herald bnawn ddoe I chwilio car clou at fy nefnydd. Dyma weld un, a ffonio’r perchennog, Roedd e’n mofyn dwy fil a chwe cheiniog, “Ga i fynd mas â’r car Am brawf ar y tar?” Gofynnais yn eiddgar, amhwyllog. A dyna pam rydw i heddi Yn gorwedd mewn ward yn y 'sbyty Mewn plaster of Paris A dau glais dansheris Yn biws dan fy mhelfis yn gwasgu. Bydd rhaid imi ffonio’r dyn heno Er mwyn imi geisio esbonio Bod y sbardun yn great, Y cornelu'n deit, Ond y brêcs oedd ddim cweit yn fy mhlesio. Iwan Rhys 8
Programme Website