Episode details

Radio Cymru,1 min
Available for over a year
Hwiangerdd yw chwiban bugeiliaid y gwynt yn corlannu awelon drwy gwrlid niwl, a chwip y llafnau’n rhwygo’n fain dros orwelion llwyd, lle bu’r ehedydd gynt yn castio’i nodau i fôr o gymylau, y tu hwnt i bob bod. Hwiangerdd geir yn nwndwr afon sy’n ffromi’n daer ar arffed dôl. Yn stori ei rhawd mae sŵn ei rheg, am i‘w hynt gael ei hastu o fynwes rhos ac o afael yr hesg. Clyw sŵn y grisial heno’n crynu drwy’r erwau caeth, a’r dicter yn chwalu’n deilchion dros groen y tir. Hwiangerdd yw’r alaw sy’n dal i’n suo â’n byd yn chwil, a’i grud yn siglo ar echel cynnydd, a’r llanw’n curo â gwawd yn ei ddwrn, a ninnau’n huno. Elinor Gwynn 9.5 Cyfanswm Marciau Glannau Menai: 52
Programme Website