Episode details

Radio Cymru,15 Mar 2026,56 mins
Ledi'r Wyrcws, nofel Saesneg gyntaf Jerry Hunter, cynhyrchiad newydd o Under Milk Wood a'r artist print Elin Crawley
Llwyfan gyda Manon Steffan RosAvailable for 29 days
Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru. Ar y rhaglen heddiw mae Manon yn pigo draw i Theatr Clwyd i gyfarfod â chast eu cynhyrchiad mawr newydd nhw o 'Under MIlk Wood' gan Dylan Thomas. Hefyd mae yn cael sgwrs hefo'r artist Elin Crowley o Fro Ddyfi. Mae Jerry Hunter ar fin cyhoeddi ei nofel Saesneg gynta', 'An Atheist Christian Gunslinger', ac mae yn galw heibio'r stiwdio i'w thrafod. Ac yna i gloi, mae ymweliad hefyd â Theatr Twm o'r Nant yn Ninbych lle mae cast drama lwyfan gyntaf Jerry, sef 'Ledi'r Wyrcws' yn cael ei pherfformio.
Programme Website