Episode details

Available for 29 days
Y dyn camera Rhys Williams sy'n trafod ei raglen ar S4C heno "Fy Ffrind ar Death Row" sy'n adrodd hanes bod mewn cysylltiad gyda Roderick Orme sy'n garcharor ar Death Row yn Florida. Gydag Etholiad Senedd Cymru agosáu, cyfle i ddod i adnabod aelodau o staff y Senedd, a sgwrs gyda Aled ap Neill sy'n Glerc y Cyfarfod Llawn yn y Gwasanaeth Siambr a Phwyllgorau; A'r seicolegydd clinigol, Dr Mair Edwards, sy'n trafod y manteision mae'r teulu yn ei gael wrth eistedd o gwmpas y bwrdd i fwyta pryd bwyd.
Programme Website