Episode details

Available for 25 days
Hanes Ffion Bennett Havard sy'n cadw defaid a threfnu blodau ar y fferm ger Cydweli. Megan Williams sy'n ymweld â hi ar y fferm i glywed ei stori. Hefyd, Gwion Jenkins o Efailwen sy'n sgwrsio am y ffordd y mae'r fferm wedi arallgyfeirio i gadw safle gwersylla, a bar diod ar gyfer y trigolion lleol a'r ymwelwyr - Bar Beca. A gyda'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi'i lansio ers dechrau'r flwyddyn, Wendy Jenkins o gwmni ymgynghorwyr amaethyddol CARA yng Ngheredigion, ac Awel Mai Hughes, cyfreithwraig gyda chwmni AgriAdvisor yn y Bala sy'n crynhoi gofynion y cynllun, ac yn rhoi cyngor i'r rhai sydd â diddordeb mewn ymuno â'r cynllun.
Programme Website