Episode details

Available for 2 days
Yr arwerthwr Dafydd Davies sy'n sôn am ei flwyddyn lwyddiannus yn ei waith gyda chwmni Farmers Marts ym Mart Dolgellau. Hefyd, Gwenno Fflur Jones o Grefftau Gelli ger y Bala sy'n sôn am y cwmni mae'n ei redeg o'r ffermdy, ar un o gyfnodau mwyaf prysur y flwyddyn. Clwb Ffermwyr Ifanc y mis yw Clwb Llantrisant ym Mro Morgannwg. Ethan Williams sy'n sôn am ei brofiadau o fod yn aelod o'r clwb. Richard Davies sydd â'r newyddion diweddaraf o'r sector cynhyrchu llaeth, a chyfle i glywed perfformiad buddugol Ensemble Lleisiol CFFI Uwchaled yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru eleni.
Programme Website