Episode details

Available for 27 days
Terwyn Davies sy'n cyflwyno rhaglen yn edrych ar dechnoleg yn y byd amaethyddol, a sut y mae datblygiadau newydd yn gwneud bywyd yn haws i ffermwyr. Sgwrs gyda Geraint Hughes o gwmni Dewin Tech sy'n datblygu pob math o ddyfeisiadau gwahanol i hwyluso gwaith ar y fferm. Dyfed a Megan Davies o Sir Benfro sy'n sôn am y coleri maen nhw wedi'u dyfeisio i helpu y bugail a'i gi. Tractor robotaidd yng Ngholeg Glynllifon a'i fanteision sy'n cael sylw Pryderi Hughes o'r coleg. Ac Aled Jones o Bancyfelin ger Caerfyrddin sy'n egluro sut y mae technoleg ar ei fferm odro wedi newid y ffordd y mae’r fferm yn cael ei rhedeg.
Programme Website