Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,16 Mar 2025,50 mins

Mark Williams

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Mae Mark Williams yn gyn-nofiwr Paralympaidd, fe yw sylfaenydd LIMB-art - cwmni sy'n cynhyrchu cloriau unigryw a hwyliog ar gyfer coesau prosthetig. Newidiodd bywyd Mark Williams o’r Rhyl un diwrnod ym Mehefin 1982 pan gollodd ei goes chwith mewn damwain ffordd wrth seiclo adref o’r ysgol. Roedd Mark yn 10 mlwydd oed. Mae’r ddamwain wedi siapio ei fywyd a’i yrfa mewn nifer o ffyrdd ac wedi arwain Mark i sefydlu cwmni yn 2018 o'r enw LIMB-art sy'n dylunio gorchuddion ar gyfer coesau prosthetig. Mae ei waith wedi cael ei gymeradwyo gan y Brenin yn 2024 gyda’r cwmni yn ennill un o Wobrau’r Brenin am ei fenter. Mae wedi ennill nifer o wobrau am ddyfeisio pethau a hefyd 30 mlynedd nol fe enillodd fedal aur, arian ac efydd ym Mhencampwriaethau'r byd i'r anabl fel nofiwr Paralympaidd. Mae ei stori yn anhygoel!

Programme Website
More episodes