Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,09 Mar 2025,50 mins

Teleri Wyn Davies.

Beti a'i Phobol

Available for over a year

"Mae bywyd yn rhy fyr" meddai Teleri Wyn Davies mewn cyfweliad arbennig gyda Beti George. "Mae beth sydd wedi digwydd i Dad wedi siapio fi, ac wedi neud i fi edrych ar fywyd mewn ffordd wahanol". Mae Teleri yn un o gyn-chwaraewyr tîm rygbi Cymru, ac wedi derbyn gwahoddiad i gael chwarae a hyfforddi’r gamp yn Tsieina. Mae hi'n byw yn ninas Shenzen sydd wedi ei lleoli yn ne-ddwyrain Tsieina, dinas gyda phoblogaeth o 17.5 miliwn sy’n cysylltu Hong Kong â'r tir mawr. Mae hi hefyd yn credu y byddai ei phenderfyniad wedi cael sêl bendith ei thad, Brian 'Yogi' Davies, a fu farw yn 56 oed - chwe blynedd ar ôl cael ei barlysu wrth chwarae ei gêm olaf i Glwb Rygbi'r Bala. Naw oed oedd Teleri ar y pryd, ac mae hi'n cofio'r diwrnod yn glir, ac yn trafod dylanwad ei thad a'i mam. Mae hi'n trafod rygbi merched ac yn rhannu straeon ei bywyd yn ogystal â dewis caneuon sydd wedi dylanwadu arni, gan gynnwys cân Mynediad am Ddim - Cofio dy Wyneb. Hon oedd y gân ar gyfer angladd Dad. "Mae jyst yn gân mor neis a mor agos i nghalon i. Mi ddaru’r hogiau rygbi ddod at ei gilydd a chanu hon".

Programme Website
More episodes