Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,12 May 2024,50 mins

Caitlin Kelly

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Caitlin Kelly yw gwestai Beti a'i Phobol. Cafodd Caitlin ei geni a’i magu yn Llundain. Mae ei Mhâm, Elen yn dod o Gaerdydd ac mae ei Thad, David yn dod o Iwerddon. “Roedd y ddau ddiwylliant yna yn fy mywyd i o’r dechrau,”meddai. Mae Caitlin yn cofio ei bod hi a’i chwaer yn mynychu Ysgol Gymraeg Cymru Llundain pob dydd Gwener tra yn yr ysgol gynradd. Yn ystod weddill yr wythnos, roedd hi yn mynd i ysgol Gatholig merched yn unig. Fe aeth Caitlin ymlaen i astudio Diwinyddiaeth yn Rhydychen gyda’r ffocws ar Islam a seicoleg crefydd yng Ngholeg Worcester. Yna mi wnaeth gais i astudio newyddiaduriaeth yn Llundain a chael lle yn City University yn astudio newyddiaduriaeth teledu. Mae bellach yn gweithio fel newyddiadurwraig ac wedi bod yn gweithio gyda’r Groes Goch yn gwneud fideos a phecynnau ar gyfer y wasg. Fe dreuliodd amser yn Gaza a Wcráin.

Programme Website
More episodes