Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,10 Mar 2024,76 mins

Yr Arglwydd Dafydd Wigley

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Yr Arglwydd Dafydd Wigley yw gwestai Beti George, a hynny 50 mlynedd ers ei ethol i San Steffan eleni. Mae'n trafod hanesion ei fywyd prysur ac yn dewis ambell gân. Wedi 50 mlynedd mewn gwleidyddiaeth mae'r Arglwydd Dafydd Wigley wedi penderfynu ymddeol o Dŷ'r Arglwyddi eleni. Mae’n dal record o ran Aelod Seneddol i gynyddu’r bleidlais a chynyddu canran y bleidlais a hynny mewn 5 etholiad yn olynol. Mae e wedi cynrychioli Arfon yn Senedd San Steffan am 27 mlynedd. Fe gafodd Mr Wigley ei ethol yn gynghorydd Plaid Cymru ym Merthyr yn 1972, cyn cynrychioli Caernarfon yn Nhŷ'r Cyffredin rhwng 1974 a 2001. Roedd yn Aelod Cynulliad i Gaernarfon rhwng 1999 a 2003 ac mae wedi bod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi ers 2011. "Pan ddes i Dŷ'r Arglwyddi gyntaf ddeng mlynedd yn ôl, doedd aelodau fan hyn ddim yn cael ymddeol, mi oeddan nhw'n mynd allan pan oeddan nhw'n marw. Ond wrth gwrs mae hawl i ymddeol wedi dod i fewn." Cawn stori’r Gangster, Murray the Hump - Llewellyn Morris Humphreys, fyddai wedi bod yn drydydd cefnder i Dafydd Wigley, ef wnaeth greu Las Vegas , cafodd ei recriwtio gan Al Capone ac a oedd ganddo ran yn llofruddiaeth JFK?

Programme Website
More episodes