Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,21 Jan 2024,50 mins

clare e.potter

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Bardd a pherfformwraig ddwyieithog yw clare e. potter, ac mae ganddi M.A. mewn Llenyddiaeth Affro-Garibïaidd o Brifysgol Mississippi. Bu’n byw yn New Orleans am ddegawd a chafodd gyllid gan Gyngor y Celfyddydau i ymateb i ddinistr Corwynt Katrina gyda phumawd jazz. Mae clare wedi cyfieithu gwaith Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, ac mae’n cydweithio ag artistiaid i greu gosodiadau barddoniaeth mewn gofodau cyhoeddus. Enillodd Wobr John Trip am Berfformio Barddoniaeth yn 2005 a bu gyda’i thad ar y Listening Project ar BBC Radio 4, yn archwilio tarddiad emosiwn mewn barddoniaeth. Yn 2018, clare oedd bardd preswyl Gŵyl Velvet Coalmine – lle bu yn Sefydliad y Glowyr yn casglu straeon pobl am yr adeilad diwylliannol a gwleidyddol bwysig hwnnw. Mae'n enedigol o bentref Cefn Fforest ger Caerffili. Saesneg oedd iaith yr aelwyd a'r pentref ac fe gafodd ei ysbrydoli gan athro Cymraeg yn Ysgol Gyfun Coed Duon ac aeth ati i ddysgu'r iaith. Clare oedd Bardd y Mis Radio Cymru cyn y Nadolig 2023.

Programme Website
More episodes