Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,11 Aug 2023,50 mins

Dr Eilir Hughes

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Meddyg teulu a ddaeth i amlygrwydd reit o ddechrau’r pandemig gan iddo chwarae rhan mor bwysig wrth geisio rheoli'r Covid-19 yw gwestai Beti a'i Phobol, ac fe gafodd ei enwebu am ei waith ar gyfer un o wobrau Dewi Sant. Mae Dr Eilir Hughes yn gweithio fel meddyg teulu yn Nefyn, Gogledd Cymru. Mae'n gwerthuso meddygon teulu yn yr ardal a newydd ddechrau fel Cyfarwyddwr Meddygol gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Sefydlodd ymgyrch Awyr Iach Cymru i hyrwyddo pwysigrwydd awyru a gwisgo masgiau i leihau'r risg o ledaenu a dal COVID-19. Daeth yn wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y cyfnod. Sefydlodd raglen frechu yn y gymuned hefyd. Tŷ Doctor yn Nefyn oedd un o'r meddygfeydd cyntaf i frechu cleifion â'r brechlyn Pfizer.

Programme Website
More episodes