Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,24 Apr 2022,48 mins

Dyfed Edwards

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Y nofelydd Dyfed Edwards, ydi gwestai Beti George. Enillodd y Fedal Ddrama yn yr Eisteddod Genedlaethol ddwy waith yn olynol., ac mae hefyd yn awdur toreithog yn Saesneg gan ysgrifennu dan yr enw Thomas Emson. Cafodd ei fagu ym mhentref Rhosmeirch ger Llangefni, ac fe aeth i Ysgol Gynradd Llangefni ac wedyn symud i Ysgol Gyfun Llangefni. Roedd wrth ei fodd yn darllen comics a llyfrau, dechreuodd yn y cyfnod yma ddarlunio a sgwennu straeon bach ei hun. Yna aeth i’r Coleg Normal ym Mangor i astudio ‘r cwrs Cyfathrebu yn 1985 . Dim ond ryw 7 ohonynt oedd yn astudio’r cwrs. Roedd y cwrs yn un weddol newydd ar y pryd ac yn dal i gael ei ddatblygu a’i greu. Un modiwl y dewisodd oedd Ysgrifennu Creadigol o dan arweiniad Rhiannon Davies Jones ac Ifor Wyn Williams sydd wedi ei ddylanwadu’n fawr. Ymgeisiodd am swydd gohebydd dan hyfforddiant efo grŵp papurau newydd yr Herald a bu’n llwyddiannus. Bu'n gweithio gyda'r Holyhead and Anglesey Mail, bu'n Ddirprwy Olygydd y Weekly News yng Nghyffordd Llandudno, a bu hefyd yn Olygydd Cynhyrchu'r Daily Post yng Nghymru. Mae bellach yn gweithio gyda’r Daily Mail gan weithio ar y ddesg fusnes. Mae’n gweithio o adref sy’n grêt. Mae o hefyd yn darlithio mewn ysgrifennu creadigol. Mae wedi ysgrifennu nifer o gyfrolau yn y ddwy iaith, ac mae bob amser nofel neu sgript ar y gweill.

Programme Website
More episodes