Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,19 May 2019,47 mins

Llinos Dafydd

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Beti George yn sgwrsio gyda Llinos Dafydd, sy'n cyfuno gwaith fel cyfieithydd, golygydd, newyddiadurwraig a ffotograffydd. Mae'n disgrifio ei magwraeth fel un ddelfrydol, yn llawn bwrlwm y Clwb Ffermwyr Ifanc a chymeriadau diddorol. Newidiodd ei bywyd pan oedd yn ei harddegau, o ganlyniad i gael ei threisio, a mae'n sôn wrth Beti am fyw gyda'r ôl-effeithiau. Gydag ysgrifennu wedi bod yn rhan o'i bywyd erioed, arweiniodd hynny at swydd gyda chylchgrawn Golwg wedi gadael yr ysgol. Mae'n cyfuno sawl swydd bellach, gan gynnwys arwain prosiect i gyhoeddi e-gylchgrawn Cymraeg ar gyfer merched ifanc, sef Lysh. Mae'r dull yma o weithio'n caniatáu iddi aros yn ei hardal enedigol, ac i fagu teulu yno, sydd yn hollbwysig iddi.

Programme Website
More episodes