Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,28 Apr 2019,45 mins

Llion Pughe

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Un sy'n fodlon mentro, ac yn fodlon methu, yw'r dyn busnes Llion Pughe. Wedi ei fagu yng Nghwm Ystwyth ac ym Mro Ddyfi, mae'n credu bod sefydlu busnesau lleol yn ddull o gadw gwaith a grym yng nghefn gwlad Cymru. Astudiodd Gymraeg a Thwristiaeth cyn gweithio i Menter a Busnes, ac yna fel swyddog marchnata i Brifysgol Caerdydd. Roedd yn benderfynol o ddychwelyd i Fro Ddyfi, a mae wedi sefydlu sawl busnes er mwyn galluogi hynny. Mae'r gwaith yn anodd ar adegau, ac ambell syniad yn aflwyddiannus, ond mae'n mwynhau'r heriau, ac yn parhau i fwynhau datblygu syniadau newydd.

Programme Website
More episodes