Episode details

Available for over a year
Menyw ei milltir sgwâr yw Ifana Savill, wedi dychwelyd i fyw yn y pentref lle cafodd ei magu. Mae chwe chenhedlaeth o'r teulu wedi byw ym Mlaenpennal ger Tregaron, a mae'n sôn wrth Beti am hanes rhai ohonynt. Pan oedd yn ifanc, roedd wrth ei bodd yn darllen, a byddai wedi hoffi astudio celf, ond hyfforddi fel athrawes wnaeth hi'n y pen draw. Un diwrnod yn unig y parodd ei gyrfa fel athrawes. Roedd yn gwybod yn syth iddi wneud camgymeriad, a fe drodd yn lle hynny at lenyddiaeth ac ysgrifennu. Cafodd foment o ysbrydoliaeth wrth sgwennu rhaglenni ar gyfer S4C, sef i ddefnyddio rhai o gymeriadau enwog yr awdur Mary Vaughan Jones ar gyfer cyfres deledu newydd o'r enw Caffi Sali Mali. Daeth rhan o gartre'r teulu'n set ar gyfer Pentre Bach, ac er bod y gyfres honno wedi dod i ben, mae Ifana a'i gŵr wedi troi Pentre Bach yn bentref gwyliau.
Programme Website