Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,17 Feb 2019,48 mins

Jill-Hailey Harries

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Pan deimlodd Jill-Hailey Harries alwad i'r weinidogaeth, roedd yn 'sgytwad iddi. Er ei bod yn mynychu'r ysgol Sul, doedd hi ddim yn siŵr beth yn union oedd gwaith gweinidog, nac ychwaith yn nabod gweinidog benywaidd. Doedd hi ddim yn or-hoff o waith ysgol, ac yn fwy awyddus i ddechrau gweithio ac ennill arian na mynd i'r coleg, ond roedd yr alwad yn rhy gryf, ac yn y pen draw aeth i Aberystwyth i astudio diwinyddiaeth. Mae'n sôn wrth Beti George am ei magwraeth yn Sir Benfro, ei mwynhad o'i gwaith fel Bugail y Stryd, ac am beryglon pregethu yn Saesneg.

Programme Website
More episodes