Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,09 Dec 2018,46 mins

Steffan Lewis

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Steffan Lewis oedd yr Aelod Cynulliad ifancaf yng Nghymru pan gafodd ei ethol i gynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru yn 2016. Mae’n dweud na all ddychmygu bywyd heb wleidyddiaeth, ar ôl i'w ddiddordeb yn y maes ddechrau pan oedd yn ifanc. Yn un ar ddeg oed, roedd yn sgwennu at Dafydd Wigley yn Nhŷ'r Cyffredin, ac yn bedair ar ddeg anerchodd Plaid Cymru am y tro cyntaf. Roedd gwleidyddiaeth hyd yn oed yn ddylanwad wrth ddewis pa dîm pêl-droed i'w gefnogi. Ddiwedd 2017, cafodd Steffan wybod fod ganddo ganser y coluddyn, a hynny yn ei bedwerydd cyfnod, ac wedi lledaenu i rannau eraill o’r corff. Mae'n sôn wrth Beti am y diagnosis, am y gefnogaeth fawr y mae wedi ei derbyn, ac am ei ddyhead i godi ymwybyddiaeth o'r salwch.

Programme Website
More episodes