Episode details

Available for over a year
Mae newyddiaduraeth wedi bod o ddiddordeb i Sian Lloyd ers pan oedd yn ifanc. Roedd yn rhan o griw a sefydlodd bapur newydd yn ei hysgol, ac ar gyfer ei herthygl gyntaf ymunodd â'r wasg yng ngorsaf reilffordd Wrecsam, i adrodd ar ymweliad gan y Dywysoges Diana. Wrth sgwrsio â Beti George, mae'n gweithio i wasanaeth newyddion rhwydwaith y BBC, yn gohebu ar straeon o Gymru, neu'n dod â gogwydd Cymreig i straeon newyddion y dydd. Cafodd Sian ei magu yn Birmingham, cyn i'r teulu symud i Wrecsam pan oedd yn 7 oed. Daw ei thad o Eifionydd yn wreiddiol, ond cwrddodd ei rhieni mewn capel yn Llundain, ac adleoli i Ganolbarth Lloegr. Yn ogystal â darlithio ym maes adeiladu, roedd ei thad yn teithio dramor gyda'r Cyngor Prydeinig, yn enwedig i wledydd yn Affrica, i sefydlu cyrsiau yno. Astudiodd Sian y gyfraith yn y coleg, a threuliodd gyfnodau yn hyfforddi yn Llundain a Hong Kong, cyn dilyn ei breuddwyd a chwilio am waith ym myd newyddiaduraeth. Mae wedi dal sawl swydd yng Nghymru, yn ogystal â gweithio i'r BBC yn Llundain a Chanolbarth Lloegr.
Programme Website