Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,09 Sep 2018,44 mins

Elin Fflur

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Mae Elin Fflur yn gwybod ers pan oedd yn ifanc na fyddai'n medru gwneud swydd sy'n golygu gwneud yr un peth bob dydd. Roedd ei magwraeth yn ardal Dwyran yn un ddelfrydol, meddai, ac mae wedi etifeddu ei dawn greadigol gan sawl aelod o'r teulu. Ystyriodd weithio gyda'r heddlu, cyn penderfynu canolbwyntio ar yrfa fel cantores, ac erbyn hyn fel cyflwynwraig hefyd. Wrth sgwrsio gyda Beti George, mae'n trafod y cyfleoedd a gafodd i ganu y tu allan i Gymru, gan gynnwys treulio amser yn America gyda'r rheolwr David Aspden a'r cynhyrchydd Jim Steinman. Yn y pen draw, fodd bynnag, plesio'r gynulleidfa o'i blaen yw'r peth pwysicaf un. Rai blynyddoedd yn ôl, cafodd wybod na allai feichiogi'n naturiol, ac mae'n ystyried ei phrofiadau o driniaeth IVF yn rhes o rwystrau. Mae'n credu'n angerddol bod angen trafod IVF yn fwy agored, er mwyn cynorthwyo eraill i ddeall y broses.

Programme Website
More episodes