Episode details

Available for over a year
Y cerddor ac aelod o fand Ar Log, Dafydd Roberts, sy’n sgwrsio gyda Heledd Cynwal am ei atgofion cyntaf: ei gartref cyntaf yn Llwyngwril; torri top ei fys gyda bwyell ar ddamwain fel plentyn bach; yr arogl o wresogydd paraffin oedd yn golygu fod Nadolig yn nesáu; gwrando ar ei fam yn ymarfer canu wrth orwedd o dan y piano; ei swydd gyntaf o weini petrol mewn garej; colli cyfweliad cwrs hyfforddi dysgu ar gyfer cyngerdd Ar Log yn Llundain; a chyngerdd cyntaf erioed Ar Log gyda’r Dubliners. Darlledwyd yn wreiddiol ar raglen Fore Cothi, BBC Radio Cymru, fis Ionawr 2026.
Programme Website