Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,22 Apr 2018,47 mins

Meirion Davies

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Yn actor ac yn ysgrifennwr, treuliodd Meirion Davies bron i ugain mlynedd yn gweithio mewn gwahanol swyddi yn S4C. Erbyn hyn, fe yw Pennaeth Cyhoeddi Gwasg Gomer, ond yr hyn sy'n rhoi'r mwynhad mwyaf iddo yw rhedeg Bridfa Heniarth yn Sir Gaerfyrddin. Etifeddodd Merion ei ddiddordeb mewn ceffylau gan ei rieni, ac fe etifeddodd hefyd ddawn artistig ei fam. Celf oedd ei fyd pan oedd yn ifanc, gan dderbyn gwersi yn Ysgol y Preseli gan yr artist Aneurin Jones. Mae ei ddyled yn fawr iddo am ei ysbrydoli a'i herio. Wedi cyfnod mewn coleg celf, aeth i astudio drama cyn dechrau gwneud bywoliaeth fel perfformiwr a sgriptiwr. I genhedlaeth o Gymry Cymraeg, bydd bob amser yn cael ei gysylltu â'r rhaglenni teledu Swig o'r 'Steddfod, a chymeriadau fel Horni a'r ddau Frank. Er hynny, yr hyn sydd wedi ei yrru trwy ei yrfa yw'r dyhead i wneud bywoliaeth er mwyn cynnal ei ddiddordeb ym myd bridio ceffylau.

Programme Website
More episodes