Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,26 Nov 2017,48 mins

Helgard Krause

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Beti George yn sgwrsio gyda'r Almaenes Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru. Ar ôl cael gradd mewn gwleidyddiaeth yn Berlin, aeth i Brighton i astudio llenyddiaeth Saesneg, a dyna ddechrau ar yrfa ym maes cyhoeddi. Roedd ei swydd gyntaf gyda Chyngor Llyfrau Cymru yn 2002, ac ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach daeth cyfle i ddysgu Cymraeg. Mae hi hefyd yn siarad Almaeneg, Ffrangeg a Saesneg, a dysgodd Rwseg pan oedd yn byw yn Rwsia am flwyddyn. Yn wir, mae'n credu'n gryf y dylai pawb ddysgu iaith pa bynnag wlad y maen nhw'n byw ynddi. Ar ôl symud i Wasg Prifysgol Cymru am gyfnod, daeth yn Brif Weithredwr y Cyngor Llyfrau yn 2017, a mae'n dweud wrth Beti fel y mae'n mwynhau'r her honno. Mae hefyd yn sôn am effaith anodd a thrist yr Ail Ryfel Byd ar ei theulu, ac am y profiad o ddweud wrth ei rhieni ei bod yn hoyw.

Programme Website
More episodes