Eleri a Daf - clywch be chi'n ei golli...

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions

Ac os ydych chi ffansi clonc gydag Eleri a Daf, cofiwch bigo draw am baned tra bod y ddau'n ymweld a'ch hardal chi yn ystod Taith Dolig 2009.

Cliciwch yma i gael cipolwg tu ôl i'r camera

> Cliciwch yma i weld yr oriel luniau

Eleri a Daf ar Daith Nadoligaidd

Wrth i bobl ar hyd a lled Cymru ddechrau meddwl am drimio'u tai, gosod y goeden Nadolig a choginio'r gacen ffrwythau mae Eleri a Daf yn pacio'u bagiau am wythnos ar y lôn.

Bydd y ddau gyflwynydd yn teithio o'r de i'r gogledd er mwyn darlledu eu rhaglen yn fyw o gaffis amrywiol ac mae 'na gryn edrych ymlaen at y daith.

"Bydd hi'n grêt cael cwrdd â phobl sy'n byw yn ardaloedd Cross Hands, Aberystwyth, Pwllheli, Caernarfon a Dinbych wrth i ni alw draw am sgwrs," esbonia Daf.

Mae Eleri am wneud y mwyaf o'r cyfle i sgwrsio a chael ysbrydoliaeth wrth bobl sy'n fwy trefnus na hi!

"Mi fydda i yn gofyn i bwy bynnag sy'n galw draw i'n gweld ni am syniadau ar gyfer f'anrhegion 'dolig achos dwi ddim wedi rhoi digon o feddwl iddyn nhw leni," esbonia Eleri.

"Bydda i eisiau tips gan ddynion am anrhegion i ddynion a merched am anrhegion i ferched. Bydda i hefyd yn cynnig tips i ddynion am beth i brynu i ferched er mwyn osgoi cwmpo mas ar ddydd Nadolig!"

Fe ddechreuodd Daf ar y paratoadau Nadolig yn gynnar eleni wrth iddo yntau, gyda help ei deulu, addurno'r tŷ cyn iddo adael am y daith.

"Dwi'n edrych ymlaen at edrych ar yr addurniadau Nadolig wrth i ni deithio o'r de i'r gogledd er mwyn gweld os yw gweddill Cymru wedi 'neud cystal sbloets â ni," dywed Daf. "Fe fydda i'n cymharu coed Nadolig drwy'r wythnos!"

Cofiwch alw draw am sgwrs gydag Eleri a Daf os fyddwch chi yn yr ardal!

Dydd Llun 7 Rhagfyr


Caffi Rhiannon, Cross Hands

Dydd Mawrth 8 Rhagfyr


Caffi Morgan, Aberystwyth

Dydd Mercher 9 Rhagfyr


Caffi Station, Pwllheli

Dydd Iau 10 Rhagfyr


Min y Nant Stores, Caernarfon

Dydd Gwener 11 Rhagfyr


Y Pantri, Dinbych

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.