Mae Huw Stephens ar C2, Radio Cymru bob nos Fawrth a nos Fercher am 10pm. Dyma ddetholiad o draciau'r wythnos:
Frizbee - Dora Gusan
Trac o'r albym newydd Hirnos gan y band weddol ifanc o Blaene. Ma'r albym allan ddechre Gorffennaf, cliciwch yma i glywed sesiwn y band.
Brian Wilson - You've Touched me
Trac gwych oddi ar albym cyntaf y cyn-Beach Boy, ei albym cyntaf mewn chwe mlynedd. Mae'r albym yn cynnwys cyfraniadau gan Eric Clapton, Paul McCartney a Elton John. Ond mae'r ffaith fod hon yn gasgliad o ganeuon newydd gan Brian Wilson ei hun yn ddigon.
Kenavo - Mwnci Cas
Dal yn hoff o hon, trac sy'n fwy na thebyg i stwff cynnar MC Mabon, ac ar EP Kenavo o Aberystwyth - Twix, Crisps a Bechdan Tywod.
GLC - Half Man Half Machine
Chwiaigwyddost! Edrych mlaen i weld nhw yn Glastonbury dros y penwythnos. Ond i fod yn onest, fin hollol ofn y glaw a'r mwd.
Vates - Shindig
Trac o'r sesiwn wythnos dwytha gan y band o Blaenau - daeth Han (sydd hefyd yn Estella) a Dewi Prysor ar y rhaglen i son am y sesiwn, ac roedd Prysor yn ddigon caredig i gyfansoddi cwpl o limrigau ar y rhaglen hefyd. Cliciwch yma i glywed y sesiwn yn llawn.
Prince - Kiss
Achos mae'n ffynci....
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.
Welsh word of the day


